Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2023
Amser:
09.00 -
12.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13408
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Adam Price AS |
Tystion: |
Gerwyn Evans, Cymru Greadigol Tim Howard, Llywodraeth Cymru Carol Shillabeer, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Dyfed Edwards, Gwynedd County Council |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gapasiti’r Gwasanaeth Sifil
2.2 Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch Adfywio Canol Trefi
2.3 Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch gwaith Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
2.4 Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch Gilestone Farm
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Adroddiad Drafft - Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
5 Gilestone Farm: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar Gilestone Farm gyda Llywodraeth Cymru.
6 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth breifat
6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth breifat gyda thystion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
7 Gilestone Farm: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9 Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Trafod llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
9.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.